Psalms 23

Y bugail sy'n gofalu am ei bobl

Salm Dafydd.

1Yr Arglwydd ydy fy mugail i;
mae gen i bopeth dw i angen.
2Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd;
ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.
3Mae'n rhoi bywyd newydd i mi,
ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd.
Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.
4Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,
fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.
Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5Rwyt ti'n paratoi gwledd i mi
ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.
Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen.
Mae gen i fwy na digon!
6Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon
gyda mi weddill fy mywyd.
A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r Arglwydd
am byth.
Copyright information for CYM